top of page

Kate Roberts: Tair Drama

Rhif 15 yng nghyfres CYFROLAU CENEDL

















Fel awdur storïau byrion a nofelau y meddyliwn yn gyntaf a phennaf am Kate Roberts. Ond da yw cofio mai fel dramodydd y dechreuodd ar ei gyrfa lenyddol. Bu iddi ymwneud â thua phymtheg o ddramâu, fel cyfieithydd, fel cyd-awdur ac fel awdur yn ei hawl ei hun. Yn y gyfrol hon cyhoeddir am y tro cyntaf dair drama gyfan, wreiddiol o waith Kate Roberts.


Drama yw Ffarwel i Addysg yn atgofio dyddiau coleg ac yn lleisio rhyw anniddigrwydd ynghylch safle merch mewn amodau caethiwus, sy’n thema mor gyfarwydd yn ei gweithiau eraill. Perthyn Y Cynddrws i ddosbarth neu dylwyth diddorol o lenyddiaeth am bobl yn cyfarfod yn y byd a ddaw, neu ar ei drothwy. A thybed beth a wnewch chwi ddarllenwyr o’r sgets Wrth Aros Loco?


Mewn Rhagymadrodd cynhwysfawr olrheinir holl berthynas Kate Roberts â’r ddrama, gan gysylltu ei themâu fel dramodydd â phrif themâu ei gwaith.


£15.00

Comments


Featured Posts
Check back soon
Once posts are published, you’ll see them here.
Recent Posts
Archive
Search By Tags
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
  • Google+ Basic Square
bottom of page